Senedd Cymru Welsh Parliament
 Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Public Accounts and Public Administration Committee
 Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus Scrutinising public administration
 PAPA(6) SPA09
 Ymateb gan Archwilio Cymru Evidence from Audit Wales
 
 Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus

1          Rydym wedi nodi isod rai sylwadau cychwynnol mewn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar sut y dylai fynd at y rhan o'i gylch gwaith gweinyddu cyhoeddus. Byddwn yn ceisio cefnogi'r Pwyllgor ym mha ffordd bynnag y gallwn wrth iddo ystyried yr ymatebion ehangach gan randdeiliaid eraill ac yn cadarnhau ei gynlluniau yn hyn o beth.

2          Roedd cylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus blaenorol eisoes yn rhoi cyfle eang i archwilio materion sy'n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus lle bo hynny'n berthnasol wrth ystyried yr economi, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd cyffredinol y cyflogir adnoddau wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus Cymru. Yn nodedig, roedd craffu ar waith cyfrifon a wnaed gan y Pwyllgor blaenorol yn llwyfan ar gyfer ystyried sut y caiff cyrff llywodraeth ganolog eu llywodraethu a'u gweinyddiaeth a'u perfformiad cyffredinol.

3          Yn ein barn ni, mae cylch gwaith estynedig y Pwyllgor newydd yn rhoi hwb i ystyried ble y gallai'r Pwyllgor fynd ymhellach drwy fwrw ymlaen â gwaith ymchwilio manylach ar faterion sy'n deillio o gyfrifon cyrff cyhoeddus a'r adroddiadau ar berfformiad gweinyddol a llywodraethu sy'n mynd gyda hwy.

4          Er enghraifft, cyn i bandemig COVID-19 ymyrryd, dangosodd y Pwyllgor blaenorol ddiddordeb mewn craffu'n fanylach ar waith Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae'r Uned yn goruchwylio materion sy'n ymwneud â phenodiadau cyhoeddus, gan gynnwys ymdrechion i gynyddu amrywiaeth. Mae effeithiolrwydd Byrddau a'u perthynas â rheolwyr yn allweddol i lywodraethu da ac yn aml mae wedi bod wrth wraidd pryderon sydd wedi dod i'r amlwg am berfformiad rhai cyrff cyhoeddus yng Nghymru. Felly, mae sicrhau trefniadau penodi cyhoeddus effeithiol a chymorth parhaus i aelodau'r bwrdd yn rhan hanfodol o'r darlun ehangach o weinyddu gwasanaethau cyhoeddus.

5          Mae'r Uned Cyrff Cyhoeddus hefyd yn cefnogi creu cyrff cyhoeddus newydd ac mae'n datblygu rhaglen o 'Adolygiadau wedi'u Teilwra' o gyrff hyd braich. Efallai yr hoffai'r Pwyllgor ymddiddori yn y rhaglen waith honno a sicrhau bod yr allbynnau a'r argymhellion sy'n deillio o'r adolygiadau hynny yn destun craffu ehangach drwy oes y Chweched Senedd.

6          Y tu hwnt i hyn, nid oes prinder materion y gallai'r Pwyllgor eu harchwilio o bosibl o dan ei gylch gwaith estynedig. Gallai hyn gynnwys materion sy'n benodol i gyrff unigol neu themâu trawsbynciol, megis y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Pedwerydd Senedd ar dâl uwch reolwyr. Mae pynciau a archwilir gan bwyllgorau cyfatebol mewn mannau eraill hefyd yn darparu bwyd i'w feddwl, er enghraifft y gwaith sy'n cael ei wneud yn San Steffan ar ryddid gwybodaeth neu reoli prosiectau mawr. Neu gallai fod lle i'r Pwyllgor archwilio sut mae Llywodraeth Cymru yn gwireddu'r egwyddor o 'Wasanaeth Cyhoeddus Cymru'n Un' ac unrhyw rwystrau rhag symud ymlaen.

7          Credwn fod y Pwyllgor yn wynebu cryn her yn y tymor byr o ran sut y bydd yn cydbwyso'r gwahanol agweddau ar ei gylch gwaith o fewn amserlen fusnes sy'n darparu llai o gapasiti nag a oedd yn wir am ei ragflaenydd. Er mwyn helpu, fodd bynnag, dylai ein rhaglen archwilio ein hunain barhau i fod yn berthnasol i themâu ehangach sy'n ymwneud â gweinyddiaeth gyhoeddus. Er enghraifft, rydym wrthi'n cwblhau gwaith sy'n edrych ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau o ran asesu'r effaith ar gydraddoldeb. Byddem hefyd yn ceisio ystyried yr hyn y gallwn ei gynnwys yn ein rhaglen waith a allai gefnogi'r Pwyllgor i archwilio pynciau o ddiddordeb.